Helpu i ddatblygu economi yn y DU sydd yn gystadleuol yn fyd-eang ac yn seiliedig ar wybodaeth
Mae STFC yn rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, corff cyhoeddus sy'n cael ei ariannu gan lywodraeth y DU.
Rydym yn sefydliad gwyddoniaeth amlddisgyblaethol sydd yn arwain y byd, a’n nod yw cyflenwi buddion economaidd, cymdeithasol, gwyddonol a rhyngwladol i’r DU a’i phobl - ac yn fwy eang i’r byd. Daw ein cryfderau o’n swyddogaethau gwahanol ond cydberthnasol:
Rydym yn cefnogi cymuned academaidd o ryw 1,700 ym meysydd ffiseg ronynnol, ffiseg niwclear, a seryddiaeth yn cynnwys gwyddor y gofod, sydd yn gweithio mewn dros 50 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil yn y DU, Ewrop, Japan a’r Unol Daleithiau, yn cynnwys carfan dreigl o dros 900 o fyfyrwyr PhD. Mae prifysgolion a ariennir gan STFC yn cynhyrchu
ôl-raddedigion gyda sgiliau gwyddonol, dadansoddol a thechnegol ym mhen uchaf y farchnad sydd, ar ôl graddio, yn cael cyflogaeth lawn bron. Mae tua hanner ein myfyrwyr PhD yn parhau ym maes ymchwil, gan gynnal gallu cenedlaethol a chreu sylfaen rhagoriaeth wyddonol y DU. Mae’r gweddill - sydd yn werthfawr iawn oherwydd eu sgiliau rhifol, datrys problemau a rheoli prosiectau - yn dewis gyrfaoedd diwydiannol masnachol neu yn y llywodraeth, sydd yr un mor bwysig.
Defnyddir ein cyfleusterau gwyddonol graddfa fawr yn y DU ac Ewrop gan dros 3,500 o ddefnyddwyr y flwyddyn, ac maent yn cynnal dros 2,000 o arbrofion ac yn creu tua 900 o gyhoeddiadau. Mae’r cyfleusterau yn darparu ystod o dechnegau ymchwil gan ddefnyddio niwtronau, mwonau, laserau a phelydrau-x a chyfrifiadura perfformiad uchel ac yn dadansoddi setiau data cymhleth. Cânt eu defnyddio gan wyddonwyr ar draws ystod enfawr o ddisgyblaethau gwyddoniaeth yn amrywio o’r gwyddorau ffisegol a threftadaeth i feddygaeth, biowyddorau, yr amgylchedd, ynni a mwy. Mae’r cyfleusterau hyn yn rhoi hwb enfawr o ran cynhyrchiant i wyddoniaeth yn y DU, yn ogystal â galluoedd unigryw i ddiwydiant yn y DU.
Mae ein dau Gampws wedi eu lleoli o amgylch Labordy Rutherford Appleton yn Harwell yn Swydd Rydychen, a Labordy Daresbury yn Swydd Gaer - y ddau yn cynnig clwstwr gwahanol o arbenigedd technolegol sydd yn tanategu ac yn uno meysydd ymchwil amrywiol. Mae’r cyfuniad o fynediad i gyfleusterau ymchwil a gwyddonwyr, gofod swyddfa a labordy, cymorth busnes ac amgylchedd sydd yn annog arloesi sydd o safon fyd-eang yn gyfuniad grymus, sydd yn denu busnesau sydd yn dechrau, BBaCh, a chwmnïau o’r radd flaenaf mawr fel IBM ac Unilever.
Rydym o’r farn bod ein gwyddoniaeth yn rhagorol - a gwyddom fod myfyrwyr, athrawon a rhieni yn credu hynny hefyd. Dyna pam rydym yn cynnal rhaglen Ymgysylltu’r Cyhoedd a chyfathrebu gwyddoniaeth estynedig, yn amrywio o fenthyg Creigiau’r Lleuad i ysgolion, ariannu cymorth i ysbrydoli mwy o bobl ifanc, sefydlu ymgysylltu â’r cyhoedd yn ein rhaglen grant a ariennir, a chynnal cyfres o ddarlithoedd, arddangosiadau teithio ac ymweliadau â’n safleoedd ar draws y flwyddyn. Dywed naw deg y cant o israddedigion ffiseg eu bod wedi cael eu denu at y cwrs gan ein gwyddorau, a chafwyd cynnydd mewn ceisiadau ar gyfer cyrsiau ffiseg - er gwaethaf gostyngiad cyffredinol mewn ceisiadau i’r brifysgol.
Last updated: 06 September 2018