Mae’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) wedi paratoi dogfennau yn y Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Mae’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cadw’r DU yn flaenllaw ym maes gwyddoniaeth ryngwladol ac yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sylweddol y mae cymdeithas yn eu hwynebu fel bodloni ein hanghenion ynni yn y dyfodol, monitro a deall newid yn yr hinsawdd, a diogelwch byd-eang.
Mae gan y Cyngor bortffolio wyddoniaeth eang ac mae’n gweithio gyda’r cymunedau academaidd a diwydiannol i rannu ei arbenigedd ym maes gwyddorau materol, technolegau’r gofod a seryddiaeth ar y ddaear, gwyddor laser, microelectroneg, gweithgynhyrchu ar raddfa waffer, ffiseg ronynnol a niwclear, creu egni amgen, cyfathrebiadau radio a radar.
Mae STFC yn gweithredu neu’n cynnal cyfleusterau arbrofol o safon fyd-eang yn cynnwys:
Mae’n galluogi ymchwilwyr y DU i gael gafael ar gyfleusterau gwyddoniaeth rhyngwladol blaenllaw trwy ariannu aelodaeth cyrff rhyngwladol yn cynnwys y Labordy Ewropeaidd ar gyfer Ffiseg Ronynnol (CERN), Institut Laue Langevin (ILL), Cyfleuster Ymbelydredd Ewropeaidd Synchrotron (ESRF) ac Arsyllfa Ddeheuol Ewrop (ESO).
Mae STFC yn un o naw Cyngor o fewn Ymchwil ac Arloesi y DU, sef sefydliad newydd sy’n dod â Chynghorau Ymchwil y DU, Innovate UK a Research England at ei gilydd er mwyn creu’r amgylchedd gorau posibl i ymchwil ac arloesi ffynnu ynddo. Y weledigaeth yw sicrhau bod y DU yn cadw ei safle byd-eang fel gwlad flaenllaw ym maes ymchwil ac arloesi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.ukri.org
Dilynwch ni ar Twitter yn @STFC_Matters
Last updated: 06 September 2018